Ty'r Arglwyddi
 Llundain
 SW1A 0PW

                                                                                              19 Chwefror 2018

Annwyl Aelod o Dŷ’r Arglwyddi,

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Rwy’n ysgrifennu i ofyn am eich cefnogaeth i’r newidiadau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) y credwn ni, Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad, sy’n angenrheidiol.

Nodir y newidiadau hyn fel chwe amcan. Amcanion pwyllgor trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ydynt. Yn fyr, y Pwyllgor Materion Allanol yw Pwyllgor Brexit y Cynulliad. Fe’i sefydlwyd gan y Cynulliad i ystyried y goblygiadau i Gymru o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a diogelu buddiannau Cymru yn y broses ymadael, a gwneud trefniadau ar gyfer y cyfnod ar ôl gadael.

Mae’r amcanion yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gafwyd gan ystod eang o randdeiliaid ac maent wedi elwa o fewnbwn arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol ledled y Deyrnas Unedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin 2017 ar y Papur Gwyn sy’n gysylltiedig â’r Bil Ymadael: Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr: Y goblygiadau i Gymru

Cyn nodi ein hamcanion, hoffwn bwysleisio eto nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn ceisio rhwystro’r DU rhag ymadael â’r UE. Fel y dywedasom yn ein hadroddiad ar y Papur Gwyn, rydym yn deall yr angen i gadw a throsi cyfraith yr UE a’i gwneud yn weithredadwy o’r diwrnod ymadael. Mae ein pryder yn ymwneud â’r ymdriniaeth o’r setliad datganoli a’r diffyg ymgysylltu â’r Cynulliad, drwy ei bwyllgorau, mewn perthynas â dirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru a gwneud trefniadau craffu.

Mae gennym rôl ffurfiol ym mhroses y Cynulliad i ystyried a ddylid rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i’r Bil.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad interim ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghlwm wrth y Bil. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn argymell y dylai’r Cynulliad gadw ei gydsyniad yn ôl ar gyfer y Bil yn ei ffurf bresennol.

Bydd ymateb Senedd y DU i’r chwe amcan a nodir isod yn effeithio’n sylweddol o ran a allwn adolygu ein sefyllfa ac argymell bod y Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad ai peidio.

Ein chwe amcan yw:

  1. Dileu cyfyngiadau Cymal 11 ar y setliad datganoli.
  2. Sicrhau bod Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro pob agwedd ar gyfraith sy’n deillio o’r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig.
  3. Sicrhau cyfyngiadau llym i’r pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil a’u bod yn llawer mwy tyn na’r rhai a nodir yn y Bil ar hyn o bryd.
  4. Atal Gweinidogion y DU rhag diwygio agweddau ar gyfraith sy’n deillio o’r UE sy’n effeithio ar Gymru oni bai ei bod yn ymwneud â maes a gedwir yn ôl.
  5. Atal Gweinidogion y DU neu Weinidogion Cymru rhag diwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig.
  6. Sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei drefniadau craffu ei hun.

Mae papur ynghlwm wrth y llythyr hwn sy’n egluro pob un o’r amcanion hyn. Er ein bod yn cynnal ein dymuniad i sicrhau y cyflawnir pob amcan yn llawn, rydym wedi ystyried y ddadl a’r ymateb iddynt yn Nhŷ’r Cyffredin.

I’r perwyl hwnnw, rydym yn parhau’n agored i ystyried awgrymiadau pragmatig, i fynd yn nes at ein safbwynt mewn rhai meysydd.

Lle mae hyn yn wir, rydym wedi nodi hyn yn y papur atodedig.

Rydym yn ymwybodol y bydd rhagor o welliannau yn debygol o gael eu cyflwyno, gan gynnwys gwelliannau gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn ystyried y rhain ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a gobeithio y bydd modd iddynt gyfrannu at gyflawni ein hamcanion.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod yr amcanion hyn yn fwy manwl, cysylltwch â mi.

Yn gywir,

 

David Rees AM, Chair of the External Affairs and Additional Legislation Committee

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.